Mae Neuadd Bentref Llanmadog, Cheriton a Landimore yn galon i gymuned y pentrefi hardd hyn yng Ngogledd Gŵyr. Fe’i lleolir rhwng Llanmadog a Cheriton yn union gyferbyn â’r Britannia Inn.
Gan mlynedd yn ôl rhoddwyd y tir lle saif Neuadd y Pentref, i’r gymuned gan Syr Lancelot Aubrey Fletcher, ac adeiladwyd y neuadd gyntaf. Ei weledigaeth oedd y byddai’r Neuadd yn cael ei defnyddio “fel llyfrgell ac ystafell ddarllen ac fel canolfan hamdden ac addysg gorfforol a meddyliol ac er mwyn hybu iechyd a lles trigolion pentrefi Llanmadog a Cheriton”. Ers hynny mae Neuadd y Pentref wedi cael ei hailadeiladu a’i hymestyn nifer o weithiau ac wedi cynnig llawer o gyfleoedd i bentrefwyr ddod at ei gilydd; Mae wedi bod yn lleoliad ar gyfer dathliadau a gweithgareddau cymunedol ac yn sylfaen i lawer o atgofion hapus.
Heddiw mae Neuadd Bentref Llanmadog, Cheriton a Landimore yn darparu lleoliad ar gyfer y llu o glybiau a chymdeithasau sydd wedi’u lleoli yn y pentrefi ac mae ar gael i’w llogi ar gyfer digwyddiadau arbennig. Mae neuadd fawr gyda llwyfan sy’n addas ar gyfer perfformiadau drama. Mae gan ddefnyddwyr fynediad i far trwyddedig llawn a chegin sydd â chyfarpar da lle mae’n bosib arlwyo ar raddfa fawr. Mae yna hefyd ystafell gyfarfod ar gael ar gyfer cyfarfodydd llai. Mae Wi-Fi ar gael i bob defnyddiwr.
Mae Neuadd y Pentref yn elusen gofrestredig gyda nifer o ymddiriedolwyr. Mae’n cael ei weinyddu gan Bwyllgor y Neuadd. Aelodau’r Pwyllgor yw:
Gee Dynamos
Laurel Davies
Rhian Davies
Karen Dusgate (co-opted)